Cryno ddic

Dau gryno ddic mewn siop

Tegan rhyw yw cryno-ddic, cryno ddic neu cryniadur (Saesneg: vibrator), sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod hunan leddfu neu gyfathrach rywiol er mwyn cyffroi'r nerfau i greu teimlad pleserus ac ymlaciol. Darlunnir rhai cryno ddic i gyffroi'n ergonomigaidd parthau nwydus ar gyfer cyffro erotig. Mae wedi'i siapio fel pidyn (ond weithiau cryn dipyn mwy), ac mae e'n cael ei roi mewn gwain neu anws neu ei ddal ar y clitoris neu unrhyw fan sensitif arall o'r corff. Ceir math di-drydan hefyd a elwir yn gala goeg.

Enwau arall arno yw: cryniadur, gwain-grynwr, peiriant pleser, feibradur, teclyn ticlo a ffwrchfodur.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search